lleihau troseddau treisgar
rydym yn lleihau trais drwy waith ymchwil, defnyddio data mewn ffyrdd newydd, a phartneriaethau newydd rhwng meysydd meddygaeth a chyfiawnder troseddol.

sylwodd jonathan shepherd, athro a llawfeddyg y genau a'r wyneb ym mhrifysgol caerdydd, ei fod yn trin mwy a mwy o ddioddefwyr ymosodiadau a gafodd eu gên a'u hesgyrn bochau wedi'u torri. nid oedd yr heddlu'n cael gwybod am dros hanner yr achosion hyn (65%).dywedodd yr athro shepherd: "roedd pobl ar fy mwrdd llawdriniaeth bob wythnos wedi'u hanafu gan rywun nad oedd erioed wedi mynd o flaen y llys. roedd y ffaith nad oedd yr heddlu'n cael gwybod am nifer fawr o droseddau treisgar yn agoriad llygad."
mesur trais
i astudio trais yn fanylach a'i atal yn fwy effeithiol, sefydlodd yr athro shepherd grŵp ymchwil trais a chymdeithas a'i changen atal, grŵp atal trais caerdydd. prototeip o bartneriaeth ddiogelwch oedd y grŵp olaf, ac mae wedi'i gynnwys fel enghraifft yn y ddeddf troseddau ac anhrefn.
datblygodd y grŵp trais a chymdeithas fodel caerdydd, sef ffordd newydd sbon o atal trais lle rhennir data o ysbytai gyda'r heddlu ac awdurdodau lleol. mae derbynyddion mewn adrannau achosion brys yn cofnodi'r lleoliad a'r arf a ddefnyddiwyd gan bobl a anafwyd mewn trais. mae'r wybodaeth hon yn cael ei gwneud yn ddienw ac fe'i chyfunir â data'r heddlu i lywio strategaethau a thactegau atal trais.
ein hymchwil ragorol
mae ein gwaith ymchwil wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol drwy ennill gwobr pen-blwydd y frenhines 2009, gwobr stockholm 2008 am droseddeg, a gwobr sellin-glueck 2003 cymdeithas troseddeg america.
lleihau trais yng nghaerdydd
drwy gyfrwng model caerdydd, mae'r grŵp wedi helpu i leihau trais cymunedol yn sylweddol:
- haneru nifer y dioddefwyr trais a gafodd eu trin mewn adrannau achosion brys yng nghaerdydd rhwng 2002 a 2013
- 39% yn llai o drais mewn adeiladau trwyddedig
- gostyngiad o 42% yn y nifer a aeth i'r ysbyty o ganlyniad i drais a gofnodwyd gan yr heddlu (o'i gymharu â 14 o ddinasoedd tebyg yn y du)
- arbed tua £5m y flwyddyn ar gostau iechyd, cymdeithasol a chyfiawnder troseddol caerdydd (arbedwyd £6.9m yn 2007).
mae gwaith ymchwil y grŵp wedi cael effaith tu allan i gaerdydd hefyd:
- mae llywodraeth y du a'r coleg meddygaeth frys wedi mabwysiadu model caerdydd ar draws y du. yn 2012, roedd dwy o bob tair uned achosion brys a phartneriaeth diogelwch cymunedol wedi cymryd camau i fabwysiadu'r dull hwn.
- mae llywodraeth yr iseldiroedd wedi ariannu rhaglen sy'n gweithredu model caerdydd yn saith ysbyty amsterdam. mae strategaeth genedlaethol wedi'i llunio i'w roi ar waith yn fwy eang, ar sail y canfyddiadau cychwynnol.
- y grŵp a ddatblygodd y rhwydwaith goruchwylio trais cenedlaethol am y tro cyntaf ym 1995, ac mae'n cynnwys 117 o adrannau achosion brys yng nghymru a lloegr erbyn hyn. mae'r grŵp yn cyhoeddi adroddiadau blynyddol am dueddiadau o ran trais ar sail gwybodaeth gan adrannau achosion brys. mae'r adroddiadau hyn wedi cynnig eglurder i dueddiadau dryslyd a nodwyd mewn data arolygon troseddau a'r heddlu.
dyma’n harbenigwyr

yr athro jonathan shepherd
athro mewn llawdriniaeth y geg, genau a'r wyneb
- shepherdjp@caerdydd.ac.uk
- +44 (0)29 2074 4215
detholiad o gyhoeddiadau
- newbury-birch, d. et al., 2014. alcohol screening and brief interventions for offenders in the probation setting (sips trial): a pragmatic multicentre cluster randomised controlled trial. alcohol and alcoholism 49 (5), pp.540-548. (10.1093/alcalc/agu046)
- drummond, c. et al., 2014. the effectiveness of alcohol screening and brief intervention in emergency departments: a multicentre pragmatic cluster randomized controlled trial. plos one 9 (6) e99463. (10.1371/journal.pone.0099463)
- moore, s. c. et al. 2014. all-wales licensed premises intervention (awlpi): a randomised controlled trial to reduce alcohol-related violence. bmc public health 14 (1), pp.-. 21. (10.1186/1471-2458-14-21)
- piquero, a. r. et al., 2014. offending and early death in the cambridge study in delinquent development. justice quarterly 31 (3), pp.445-472. (10.1080/07418825.2011.641027)
- florence, c. et al., 2013. an economic evaluation of anonymised information sharing in a partnership between health services, police and local government for preventing violence-related injury. injury prevention 20 (2), pp.108-114. (10.1136/injuryprev-2012-040622)
cysylltau cysylltiedig
this research was made possible through our close partnership with and support from: