gwella'r ymateb i ddioddefwyr trais
mae ein gwaith ymchwil wedi cyfrannu at weddnewid y gwasanaethau a gynigir i ddioddefwyr trais domestig a rhywiol.

bob blwyddyn, mae tua 1.2 miliwn o ddioddefwyr benywaidd a 700,000 o ddioddefwyr gwrywaidd yn datgelu eu bod yn profi trais yn y cartref bob blwyddyn, yn ôl ffigurau blynyddol o arolwg troseddau cymru a lloegr (csew). serch hynny, cyn 2002, prin iawn oedd sylfaen y dystiolaeth o ran 'beth sy'n effeithiol' i ddioddefwyr trais domestig a rhywiol.
ffyrdd newydd o weithio
cynhaliodd dr amanda robinson gyfres o brosiectau ymchwil rhyng-gysylltiedig, oedd yn defnyddio dulliau ansoddol a meintiol, i nodi arferion gwaith effeithiol a mesur canlyniadau. rhoddodd yr ymchwil ganfyddiadau pwysig am sut i ymateb orau i ddioddefwyr trais domestig a rhywiol:
mae partneriaethau aml-asiantaeth yn hanfodol er mwyn rhoi gwasanaeth gwell. nododd yr ymchwil fod llysoedd trais domestig arbenigol yn cynnig ffordd o fynd i'r afael â thrais domestig yn rhan o fframwaith aml-asiantaeth a ddyluniwyd drwy ystyried anghenion diogelwch a chymorth dioddefwyr a phlant.
mae angen cymorth annibynnol gan ddarparwyr arbenigol ar ddioddefwyr. cyfrannodd yr ymchwil at sail dystiolaeth gadarn ynglŷn â gwerth y gwasanaethau hyn i ddioddefwyr unigol ac asiantaethau partner fel yr heddlu.
mae angen math penodol o wasanaeth ar ddioddefwyr risg uchel. dangosodd yr ymchwil fod cynadleddau aml-asiantaeth sy'n asesu risg yn enghraifft effeithiol o sut i helpu'r rheini sydd fwyaf mewn perygl o gam-drin difrifol neu ddynladdiad yn ôl pob golwg.
ymateb i drais: arloesedd caerdydd
cynhaliwyd y gynhadledd asesu risg aml-asiantaeth gyntaf (marac) yng nghaerdydd. erbyn hyn, mae dros 280 o gynadleddau o'r fath ar waith ledled cymru, lloegr, yr alban a gogledd iwerddon, ac maent yn ymateb i dros 74,000 o achosion risg uchel o drais domestig gyda 94,000 o blant o dan sylw.
newid y cyd-destun ar gyfer cyflwyno gwasanaethau
mae'r gwasanaethau a gyflwynir i ddioddefwyr trais domestig a rhywiol wedi newid yn sylweddol yng nghymru, y du a'r ue yn ystod y degawd diwethaf, ac mae'r dystiolaeth a gynhyrchwyd gan ymchwil dr robinson wedi bod yn hollbwysig yn y datblygiadau hyn. roedd tri o'r saith amcan polisi yn yr adroddiad 'saving lives, reducing harm, protecting the public' gan lywodraeth y du yn 2008, wedi defnyddio tystiolaeth o waith ymchwil dr robinson.
erbyn hyn, mae llwyfan o ymyriadau ar gael yn y du nad oedd yn bodoli cyn y gwaith ymchwil hwn. mae'r gwasanaethau ar gyfer dioddefwyr trais domestig a rhywiol yn cael eu cyflwyno mewn ffyrdd mwy cyfannol, effeithlon ac effeithiol yn y du a thu hwnt.
mae tasglu cyngor ewrop ar drais yn erbyn menywod 2008 yn gwneud defnydd amlwg o waith ymchwil dr robinson. fe'i gwahoddwyd hefyd i gymryd rhan mewn dau brosiect oedd wedi'u hariannu gan gyngor ewrop ynghylch diogelu dioddefwyr rhag trais sy'n seiliedig ar ryw.
mae effaith gwaith ymchwil dr robinson i'w gweld hefyd yn y ddogfen bolisi ewropeaidd bwysicaf am y pwnc ers degawdau: convention for preventing and combating violence against women and domestic violence gan gyngor ewrop yn 2011.
dyma’n harbenigwyr
detholiad o gyhoeddiadau
- robinson, a. l. and howarth, e. 2012. judging risk: key determinants in british domestic violence cases. journal of interpersonal violence 27 (8), pp.1489-1518. (10.1177/0886260511425792)
- robinson, a. l. and hudson, k. j. 2011. different yet complementary: two approaches to supporting victims of sexual violence in the uk. criminology and criminal justice 11 (5), pp.515-533. (10.1177/1748895811419972)
- robinson, a. l. 2007. improving the civil-criminal interface for victims of domestic violence. the howard journal of criminal justice 46 (4), pp.356-371. (10.1111/j.1468-2311.2007.00482.x)
- robinson, a. l. 2006. reducing repeat victimisation among high-risk victims of domestic violence: the benefits of a coordinated community response in cardiff, wales. violence against women 12 (8), pp.761-788. (10.1177/1077801206291477)
- robinson, a. and cook, d. 2006. understanding victim retraction in cases of domestic violence: specialist courts, government policy, and victim-centred justice. contemporary justice review 9 (2), pp.189-213. (10.1080/10282580600785017)
cysylltau cysylltiedig
this research was made possible through our close partnership with and support from: