prifysgol i bawb
mae gennym amrywiaeth o raglenni a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio i godi dyheadau a hyrwyddo addysg uwch i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn draddodiadol.
rydym yn ymrwymedig i ymateb i ddisgwyliadau llywodraeth cymru a nodir yn ei strategaeth addysg uwch - er mwyn ein dyfodol - ac wedi datblygu strategaeth ehangu mynediad a chadw. trwy’r strategaeth hon byddwn yn:
- codi dyheadau a chyrhaeddiad myfyrwyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol mewn addysg uwch yng nghymru
- sicrhau ein bod yn recriwtio myfyrwyr i'r brifysgol o bob cefndir gan gydnabod potensial llawn myfyrwyr yn ystod y broses dderbyn
- cynnig llwybrau ychwanegol at gyrsiau israddedig amser llawn dethol a dulliau cyflwyno mwy hyblyg i ôl-raddedigion
- darparu cymorth wedi'i deilwra i fyfyrwyr i'w galluogi i ddatblygu’n academaidd, yn broffesiynol ac yn bersonol i'w llawn botensial.